Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Laerke Williams

Myfyriwr Prifysgol Bangor



Rwy’n teimlo bod y Diploma Mynediad i AU wedi fy mharatoi’n dda iawn ar gyfer y brifysgol - dydw i ddim yn siŵr y byddwn i wedi llwyddo i gyrraedd mor bell â hyn heb y sgiliau a addysgir ar y cwrs, yn enwedig sgiliau cyfeirnodi, ysgrifennu academaidd, ac offer chwilio.

Stori Laerke

Fe glywes i am gyrsiau Mynediad i AU gan ffrind a oedd wedi penderfynu ailhyfforddi yn ddiweddar fel nyrs iechyd meddwl. Roedd hi hefyd yn fyfyriwr hŷn, ac roeddwn i'n teimlo y byddai ei chyngor yn berthnasol i mi, gan ein bod ni mewn amgylchiadau tebyg. Roeddwn i ar bwynt yn fy mywyd lle roeddwn i hefyd yn awyddus iawn i ailhyfforddi a newid fy ngyrfa i rywbeth roeddwn i wedi bod eisiau ei ddilyn ers amser maith. Gwnaeth clywed am ei phrofiad cadarnhaol o'r Diploma Mynediad i AU i mi deimlo'n ddigon hyderus i gymryd yr hyn a oedd yn ymddangos yn gam mawr i mewn i faes gwaith cwbl newydd i mi.


Gan fy mod i'n rhiant sengl i ddau blentyn ifanc, roedd yn bwysig gwybod y gallwn i ymdopi’n ariannol yn ystod y Diploma - er mwyn gallu talu fy morgais, biliau a chostau gofal plant. Fe wnes i gais am gredyd cynhwysol am y flwyddyn, a chefais grant gofal plant hefyd gan sefydliad Cymreig o'r enw PACE, a dalodd y rhan fwyaf o'm costau. Ar ben hynny, bûm yn gweithio Sadyrnau a chefais gefnogaeth gan fy nheulu hefyd.


Roedd ein tiwtoriaid yn wych. Roedden nhw’n ardderchog am ennyn diddordeb a’n paratoi fel myfyrwyr ar gyfer mynd i’r brifysgol, yn ogystal â'n cefnogi gyda'n dewis o brifysgol. Roedd y gwaith cwrs yn wych ac wedi'i gynllunio'n dda. Roedd yn berthnasol ac rwy'n teimlo fy mod yn ymdopi â fy ngradd yn well oherwydd y pynciau yr ymdriniwyd â nhw yn ystod Mynediad i AU. Llwyddodd y cwrs i ragori ar fy nisgwyliadau, ac fe wnes i hefyd wneud ffrindiau da iawn o blith ein grŵp o fyfyrwyr.


Cefais ymatebion cadarnhaol gan brifysgolion i'm cais fel myfyriwr Mynediad i AU. Roedd yn rhaid i mi gyflawni 30 marc rhagorol allan o 45, a llwyddais i gyflawni 45 rhagoriaeth, a’m helpodd i gael lle ar fy nghwrs gradd. Yn gyffredinol, mae'r brifysgol yn gwerthfawrogi Mynediad i AU, oherwydd bod y pynciau sy’n cael eu hastudio’n berthnasol ac yn benodol i'r cwrs gradd, gan gynnwys cael ein haddysgu ynghylch sut i gyfeirnodi ac am offer ymchwil.


Rwy’n teimlo bod y Diploma Mynediad i AU wedi fy mharatoi’n dda iawn ar gyfer y brifysgol - dydw i ddim yn siŵr y byddwn i wedi llwyddo i gyrraedd mor bell â hyn heb y sgiliau a addysgir ar y cwrs, yn enwedig sgiliau cyfeirnodi, ysgrifennu academaidd, ac offer chwilio. Mae'r cwrs wedi bod o werth enfawr i mi, gan y bydd yn rhoi mynediad i mi i fyd radiograffeg, a dyna ble rydw i eisiau gweithio ac adeiladu gyrfa. Mae wedi rhoi mwy o hyder i mi yn academaidd, ac mae'r pynciau y rhoddwyd sylw iddynt yn debyg i rai o'r pynciau rydyn ni'n cael ein eu dysgu amdanynt yn y brifysgol ar hyn o bryd, sydd o fudd mawr i mi gwblhau'r radd yn fwy llwyddiannus.


Byddwn yn argymell y Diploma yn gryf. Os yw rhywun eisiau dechrau ar yrfa nad oes ganddyn nhw’r lefel gywir o addysg ar ei chyfer, mae'r Diploma Mynediad i AU yn ffordd wych a chyffrous o gyflawni'r cymwysterau perthnasol sydd eu hangen i'ch rhoi ar y trywydd iawn i'r cwrs gradd rydych chi am ei astudio. Mae hefyd yn wych i fyfyrwyr hŷn fel fi oedd wedi cael gyrfa 15 mlynedd mewn prynu a rheoli, ond heb brofiad na Safon Uwch mewn Bioleg, a oedd yn ofyniad ar gyfer cael lle ar y cwrs gradd mewn Radiograffeg Ddiagnostig.