Gavin McKay
Myfyriwr Parafeddygaeth, Prifysgol Abertawe
Byddwn yn argymell y Diploma i unrhyw un sydd wedi bod allan o addysg ers rhai blynyddoedd ac sy'n dymuno cyflawni eu gofynion addysgol i gwblhau gradd prifysgol - beth bynnag yw eu hoedran. Roeddwn wrth fy modd gallu sicrhau fy lle ar y cwrs gradd BSc Gwyddoniaeth Parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020.'

Stori Gavin
Wrth i ni ddathlu Wythnos Dysgwyr sy’n Oedolion yng Nghymru, dyma Gavin McKay, enillydd gwobr 'Cyflawniad Academaidd Eithriadol' yng Ngwobrau Coffa Keith Fletcher ar gyfer Mynediad i AU yn rhannu ei brofiad o astudio Diploma Mynediad i AU (Gwyddoniaeth) yng Ngholeg Ceredigion. Diolch yn fawr i Gavin ac Agored Cymru am ganiatáu i ni gynnwys y stori hon ar ein gwefan.
Roedd Gavin wedi bod yn Rheolwr TGCh yn Ysgol Gyfun Aberaeron yng Ngheredigion am fwy na 15 mlynedd. Er bod y swydd hon yn darparu cynhaliaeth i'w deulu ac yn rôl werth-chweil, ers ei 30au cynnar mae Gavin wedi difaru na fu iddo ddilyn gyrfa mewn Parafeddygaeth.
Diogelir y teitl 'Parafeddyg' gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac o'r herwydd, rhaid cyflawni gradd mewn parafeddygaeth i gael swydd sy’n dwyn y teitl hwn.
Yn 46 oed, gyda blynyddoedd lawer ers iddo adael addysg, roedd Gavin yn gwybod bod angen Diploma Mynediad i Addysg Uwch os oedd am gael cyfle i ymrestru ar y cwrs gradd cystadleuol ar gyfer Gwyddorau Parafeddygol.
Pan ofynnwyd iddo am ei brofiad o'r Diploma, dywedodd Gavin: 'Gyda theulu’n dibynnu arnaf a morgais, bu rhaid i mi feddwl o ddifrif am y penderfyniad mawr hwn, ond gyda chefnogaeth fy ngwraig, plant a theulu, penderfynais ymrwymo i'r Diploma a chofrestru yng Ngholeg Ceredigion Aberystwyth yn 2019.
‘Roedd y ffordd y cyflwynwyd y Diploma, ynghyd â’r gefnogaeth gan y darlithwyr a'r tîm rheoli yng Ngholeg Ceredigion wedi rhoi cychwyn rhagorol i'r camau cyntaf ar y llwybr i'r yrfa roeddwn i wedi’i dewis. Mewn sawl ffordd, roedd y cwrs Mynediad i AU yn well na’r hyn oeddwn i wedi’i ddisgwyl - nid yn unig y galluogodd i mi fynd i mewn i addysg uwch, ond rhoddodd sgiliau i mi hefyd sy'n hanfodol i gynhyrchu gwaith o ansawdd uchel, fel ymchwil, rheoli amser a chyfathrebu.
'Byddwn yn argymell y Diploma i unrhyw un sydd wedi bod allan o addysg ers rhai blynyddoedd ac sy'n dymuno cyflawni eu gofynion addysgol i gwblhau gradd prifysgol - beth bynnag yw eu hoedran. Roeddwn wrth fy modd gallu sicrhau fy lle ar y cwrs gradd BSc Gwyddoniaeth Parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020.'
Mae Gavin ar fin dechrau ei ail flwyddyn fel myfyriwr Gwyddoniaeth Parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n gobeithio dod yn Barafeddyg cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Yn y pen draw, uchelgais Gavin yw cael ei gyflogi gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Rhannodd Jennifer Glenc, tiwtor enwebu Gavin yng Ngholeg Ceredigion y geiriau hyn i ddathlu cyflawniadau Gavin, ac i roi cydnabyddiaeth iddo:
Mae Gavin McKay yn enghraifft o sut y gall ymroddiad, ymrwymiad ac uchelgais ddatgloi potensial unigolyn, ac mae’n brawf y gall oedolion sy'n dysgu gyflawni eu hamcanion beth bynnag fo’u hoedran neu gam mewn bywyd. Mae Gavin yn dangos i ni y gall breuddwydion plentyndod ynghylch gyrfa gael eu gwireddu yn ddiweddarach mewn bywyd, cyn belled â bod gennych yr awydd a'r ymroddiad sy'n angenrheidiol i gyflawni hynny.
'Gyda'r athroniaeth nad oes unrhyw berson gwell i ddiffinio'ch tynged, na CHI eich hun. Mae ei ymroddiad diwyro a'i gysondeb yn ei waith wedi rhoi golygu y bydd gan y GIG unigolyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r bobl hynny y bydd yn dod ar eu traws trwy gydol ei yrfa newydd.'