Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Shokhan Hasan

Diploma Mynediad i AU a Chynorthwyydd Gofal



Fy nod oedd cyflawni digon o farciau ar lefel rhagoriaethau i ddechrau yn y brifysgol. Rwy'n falch o ddweud, er gwaethaf yr holl galedi a heriau a wynebais, fy mod wedi cyflawni 36 rhagoriaeth a naw ar lefel teilyngdod.
""

Stori Shokhan

Yn wreiddiol o Gwrdistan, Gogledd Irac, symudodd Shokhan i'r DU ym mis Awst 2010 i briodi. Yn Nyrs Anesthetig yn Cwrdistan, symudodd Shokhan i Gaerdydd. Gan siarad Cwrdeg yn unig, roedd Shokhan yn benderfynol o ddysgu Saesneg i'w galluogi i barhau i astudio.

 

Yn 2016, ymrestrodd Shokhan i astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CCAF) ar Lefel 2 o’r Diploma Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach. Yna, er mwyn datblygu ei sgiliau Saesneg ymhellach, symudodd Shokhan ymlaen i Ddiploma Mynediad i AU (Gwyddorau Iechyd) yn rhan-amser.

 

Mae Shokhan yn disgrifio ei chyfnod yn CCAF fel hyn:

 

“Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb yr holl athrawon a staff yn CCAF. Rwy'n dal i gofio'r holl gefnogaeth garedig a geiriau calonogol a roddwyd i mi pryd bynnag roeddwn i'n ei chael hi’n anodd. Fe wynebais rai cyfnodau anodd iawn yn ystod y blynyddoedd hyn o fy astudiaethau. Mae bywyd bob amser yn cynnig heriau na ellir eu rhagweld.”

 

Yn 2018, derbyniodd Shokhan y newyddion trist bod ei rhieni a’i rhieni yng nghyfraith wedi marw. Galluogodd agwedd gadarnhaol ac optimistaidd at fywyd Shokhan iddi ymdopi â’i galar a pharhau â’i hastudiaethau i gyflawni ei huchelgais.

 

Drwy gydol ei hastudiaethau bu Shokhan yn cydbwyso’r cyfrifoldeb o ofalu am ddau blentyn ifanc a gwirfoddoli mewn ysbyty plant â chwblhau ei haseiniadau Mynediad i AU yn ystod y ddwy flynedd anoddaf, yn dilyn y pandemig. Er gwaethaf yr heriau hyn, ni chollodd Shokhan wers na therfyn amser ar gyfer cyflwyno gwaith.

 

Yn ystod ei hail flwyddyn o astudiaethau ar y cwrs Mynediad i AU, roedd Shokhan yn feichiog, a daliodd ati i astudio gan golli dim ond pythefnos o wersi ar ôl genedigaeth ei phlentyn. Llwyddodd i ymdopi’n wych â chwrs dwys, ochr-yn-ochr ag addysgu ei dau blentyn ifanc gartref yn ystod y pandemig a gofalu am newydd-anedig - bob amser gyda gwên ar ei hwyneb.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Shokhan hefyd yn delio ag iselder ôl-enedigol ac yn dal i lwyddo i gyflwyno aseiniadau rhagorol ar amser.

 

Meddai Shokhan wrth sôn am ei phrofiad:

 

“Nid yw astudio mewn ail iaith yn dasg hawdd, a gall greu llawer o rwystrau. Ar ben hynny, gall bod â phlant bach, a hynny heb gefnogaeth gan deulu gymhlethu bywyd, yn enwedig wrth fyw dramor.

 

Fodd bynnag, dechrau ar y cwrs Mynediad i AU oedd un o fy mhenderfyniadau gorau - fy nod oedd cyflawni digon o farciau ar lefel rhagoriaethau i ddechrau yn y brifysgol. Rwy'n falch o ddweud, er gwaethaf yr holl galedi a heriau a wynebais, fy mod wedi cyflawni 36 rhagoriaeth a naw ar lefel teilyngdod.”

 

Astudiodd Shokhan y Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn CCAF. Meddai ei thiwtoriaid, Julie Pritchard a Sal Willetts, a enwebodd Shokhan ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Agored Cymru:

 

“Mae Shokhan yn berson a myfyriwr penderfynol ac ymroddedig iawn. Dechreuodd astudio gyda ni’n gyntaf ar lefel 2 ar y Diploma Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach. Byddai Shokhan yn treulio oriau yn cyfieithu aseiniadau ar draws sbectrwm eang o bynciau i gwrdd â therfynau amser a chwblhau'r diploma yn llwyddiannus. Er mwyn datblygu ei sgiliau Saesneg ymhellach, symudodd Shokhan ymlaen i Ddiploma Mynediad i Wyddorau Iechyd yn rhan-amser.

 

Nid Saesneg yw iaith gyntaf Shokhan a thros gyfnod ei hastudiaethau gwellodd ei gafael ar yr iaith Saesneg, ac erbyn diwedd y flwyddyn roedd hi’n cynhyrchu aseiniadau rhagorol, gan ddatblygu ei sgiliau yn helaeth yn y broses.”

 

Mae Shokhan bellach yn fam i dri o blant, yn gweithio fel cynorthwyydd gofal ac wedi gwneud cais am swydd ym maes Nyrsio Oedolion.