Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Lorna Hughes

Myfyriwr Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor



Nid yw oedran yn rhwystr. Os ydych chi wir eisiau rhywbeth, ewch amdani - gallwch chi ei gyflawni!
""

Stori Lorna

Nid oedd Lorna wastad wedi bod eisiau astudio nyrsio. Yn wir, astudiodd ieithoedd yn y brifysgol yn wreiddiol, gan fynd ymlaen i weithio am flynyddoedd lawer fel cyfieithydd. Yn 49 oed, credai Lorna ei bod yn rhy hwyr, mai prin oedd ei siawns o gael ei derbyn ar y cwrs yn y brifysgol. Fodd bynnag, wrth i’w phlant dyfu i fyny a dod yn fwy annibynnol tyfodd yr awydd i ddilyn gyrfa ym myd nyrsio.

 

“Roeddwn i'n dweud wrtha' i fy hun o hyd, mai dyma fy nghyfle olaf, ac os na wnewch chi roi cynnig arni, fyddwch chi byth yn gwybod” meddai Lorna.

 

Felly, aeth Lorna ymlaen i ddod o hyd i’r cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn ei choleg lleol, Grŵp Llandrillo Menai. “Roeddwn i wrth fy modd â'r cwrs Mynediad i AU ac roedd fy nhiwtor, Holly, mor gefnogol a chalonogol. Roeddwn i’n 50 erbyn hyn ac yn meddwl bod fy oedran yn rhwystr i mi, ond fe wnaeth Holly fy helpu i weld nad oedd hyn yn wir o gwbl.”

 

Astudiodd Lorna ar gyfer ei Diploma Mynediad i AU yng Ngholeg Llandrillo-yn-Rhos, dan diwtoriaeth Holly a enwebodd Lorna ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Agored Cymru.

 

“Roedd Lorna yn fyfyrwraig ardderchog ar y cwrs Diploma Mynediad i AU (Gwyddorau Iechyd). Daeth yn gynrychiolydd cwrs gan gynnig cefnogaeth academaidd ac emosiynol i’w chyd-fyfyrwyr pan orfodwyd dysgwyr i weithio ar-lein oherwydd COVID-19.

 

Byddai Lorna yn treulio cyfran helaeth o'i hamser rhydd yn cynnig cymorth i'r myfyrwyr hyn, a chredaf fod ganddyn nhw lawer i ddiolch iddi am eu helpu i ddod trwy flwyddyn heriol iawn i gwblhau'r cwrs”, meddai Holly.

 

Enillodd Lorna lefel rhagoriaeth yn yr holl unedau graddedig a hefyd cafodd ei henwebu’n Ddysgwr Mynediad y Flwyddyn yng Ngholeg Llandrillo.

Derbyniwyd Lorna ar y cwrs Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor a dywed:

 

“Dechreuais fy ngradd ym mis Medi 2021, ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud y cwrs Diploma Mynediad i AU gan ei fod wedi fy mharatoi'n dda iawn ar gyfer bywyd academaidd. Nawr rwy'n caru fy nghwrs gradd a'm lleoliadau nyrsio, ac rwy’n edrych ymlaen at yrfa ym myd nyrsio ar ddiwedd y tair blynedd.”

 

Yn wreiddiol o’r Alban, mae Lorna bellach yn byw yng Nglan Conwy, Gogledd Cymru gyda’i gŵr, dwy ferch yn eu harddegau ac amryw o gathod a chŵn!

 

Pan ofynnwyd iddi pa gyngor y byddai’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried astudio Diploma Mynediad i AU, meddai Lorna: “Nid yw oedran yn rhwystr. Os ydych chi wir eisiau rhywbeth, ewch amdani - gallwch chi ei gyflawni!”